Giving Online Giving powered by Stewardship Give Here

Cymraeg

Beth sy'n digwydd yn Gymraeg yn yr eglwys

Eglwys yng nghadarnle’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin yw Eglwys Efengylaidd Rhydaman ac mae Cymry Cymraeg a gweithgarwch Cymraeg yn bwysig ynddi.


Whilst we have a monthly Welsh language meeting (Darganfod) and a weekly home group through the medium of Welsh, we also think that where ever you may meet us we’re likely to offer a warm Welsh welcome.

Darganfod

Ydych chi am gyfarfod Cymraeg bywiog a chroesawgar? Yna Darganfod yw’r lle i chi ar nos Sul ola’r mis yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd am 6:00 y.p.


Yn ystod y flwyddyn ceir nifer o gyfarfodydd arbennig – megis adeg Gŵyl Ddewi a’r Nadolig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i dudalennau Darganfod am y newyddion llawn diweddaraf a chyfle i wrando ar gyfarfodydd y gorffennol.

Cyfarfod Cymraeg nos Fercher

Yn ogystal mae cyfle i ddod at ein gilydd ar nos Fercher i rannu, astudio’r Beibl a gweddïo mewn gwahanol gartrefi a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes diddordeb gennych mewn gwybod mwy neu ymuno â’r grŵp cysylltwch â swyddfa’r eglwys.

Cwestiynau?

Os oes gennych rhagor o gwestiynau ynghylch ein gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, cliciwch y botwm isod a chysylltwch gyda ni!